Cyngor Cymuned
Botwnnog
DIWRNOD GWEITHWYR Y GIG, GOFAL CYMDEITHASOL
A RHENG FLAEN
5ed GORFFENNAF, 2021
Mae pob Cyngor lleol ac eraill ledled Cymru yn cael eu hannog i chwarae rhan arweiniol yn Niwrnod Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a Rheng Flaen ar 5ed Gorffennaf, 2021. Diwrnod unigryw yw hwn i ddathlu a choffáu’r sawl sy’n gweithio bedair awr ar hugain y dydd, saith niwrnod yr wythnos heb feddwl dim am eu diogelwch eu hunain.
Awgrymiadau sydd i law yw i godi banner unigryw am 10.00 y.b.; cymryd rhan y Ddau Funud o Dawelwch am 11.00 y.b.; Llwnc Destun y Genedl am 1.00 y.p.; te prynhawn am 4.00; canu clychau’r eglwys 71 o weithiau a phob seiniad yn cynrychioli blwyddyn yn 71 mlynedd y GIG a hyn i ddigwydd am 8.00 y.h. Bydd y gweithgareddau yma yn ‘deyrnged’ i Arwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r sawl sy’n gweithio mor ddiflino ar y rheng flaen.
Gellir gweld gweld gweithgareddau’r dydd, ynghyd a mudiadau ac eraill sy’n cefnogi’r fenter unigryw hon hyd yn hyn drwy ymweld a www.nhsfrontlineday.org
Fel Cyngor Cymdeithas Botwnnog ‘rydym yn awyddus i gefnogi’r fenter yma a gofynnir i chwi fel trethdalwyr am eich syniadau. Gellwch drafod/basio eich syniadau i un o aelodau’r Cyngor neu gellwch gysylltu’n uniongyrchol a’r Clarc. Byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed gennych erbyn 31ain Mai, 2021, fan bellaf.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Clarc Cyngor Cymdeithas Botwnnog.
 
Mae Rhybydd o Ganlyniad Archwiliad 2019-2020 i weld rŵan (cliciwch ar y linc).
 
Oherwydd y cyfyngiadau sydd ynghlwm a’r Coronafeirws, ni fydd y Cyngor yn cyfarfod mewn mannau cyhoeddus arferol, (megis y Neuadd, Festri Capel) ond yn hytrach cynhelir cyfarfodydd drwy’r dechnoleg ‘Zoom.’ Os oes unrhyw fater yr hoffech dynnu sylw ato, boed fach neu fawr, yna mae croeso i chwi gysylltu â mi neu aelod o’r Cyngor – gellwch gael y manylion ar y dudalen ‘Aelodau’ ar y wefan yma.
Cadwch yn saff – daw eto haul ar fryn!
Gwenda Roberts
Clarc Cyngor Cymdeithas Botwnnog
Tel: 730357
 
Os dymunwch fel Mudiad neu Sefydliad gyflwyno cais am gymorth ariannol, fe ystyrir y ceisiadau hyn dair gwaith y flwyddyn sef ym mis Ebrill, Gorffennaf ag Ionawr. Rhaid i bob cais fod yn llaw y Clarc erbyn diwedd y mis blaenorol, sef Mawrth ar gyfer cyfarfod Ebrill; Mehefin ar gyfer cyfarfod Gorffennaf a Rhagfyr ar gyfer mis Ionawr.
Pan yn cyflwyno’r cais rhaid i chwi amgau mantolen ariannol am y flwyddyn flaneorol os gwelwch yn dda. Diolch.
Gwenda Roberts
Gwyndy
Bryncroes
Pwllheli.
Gwynedd.
LL53 8ET.
 
Rhybudd o ganlyniad archwiliad 2019 - 2020
(cliciwch i weld yr hysbysiad)
 
Mae’r Cyngor wedi ei leoli ym Mhenrhyn Llyn mewn Ardal o Harddwch Naturiol.
Cynrychioli’r y Cyngor gan yr aelodau ar dair Ward, sef Ward Botwnnog, Ward Sarn Mellteyrn a Ward Bryncroes.
Mae Ward Botwnnog yn ymestyn i gyrrion Llaniestyn i’r dwyrain, Nanhoron i’r de-ddwyrain ac yna am Borth Neigwl o’r de. Tra mae Ward Sarn Mellteyrn yn ymestyn am Fryn Mawr ac yna Ward Bryncroes yn cynrychioli ardal Penygroeslon a rhan o Langwnnadl.