Cyngor Cymuned
Botwnnog
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2023
Mae Rheoliad 15(5) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol erbyn 30 Medi 2023, gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifeg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a roddir, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae'r datganiadau cyfrifyddu, ar ffurf ffurflen flynyddol, wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi ei farn a'i adroddiad archwilio eto ac felly mae'r cyfrifon yn cael eu cyhoeddi cyn i'r archwiliad ddod i ben. Cyhoeddir y ffurflen flynyddol ynghyd ag adroddiad a barn yr Archwilydd Cyffredinol pan fydd yr archwiliad wedi'i gwblhau.
COFIWCH - Os oes unrhyw fater yr hoffech dynnu sylw ato, boed fach neu fawr, yna mae croeso i chwi gysylltu â mi neu aelod o’r Cyngor – gellwch gael y manylion ar y dudalen ‘Aelodau’ ar y wefan yma ac fe drafodir y mater yng nghyfarfod misol y Cyngor.
Gwenda Roberts
Clarc Cyngor Cymdeithas Botwnnog
Tel: 730357
Os dymunwch fel Mudiad neu Sefydliad gyflwyno cais am gymorth ariannol, fe ystyrir y ceisiadau hyn dair gwaith y flwyddyn sef ym mis Ebrill, Gorffennaf ag Ionawr. Rhaid i bob cais fod yn llaw y Clarc erbyn diwedd y mis blaenorol, sef Mawrth ar gyfer cyfarfod Ebrill; Mehefin ar gyfer cyfarfod Gorffennaf a Rhagfyr ar gyfer mis Ionawr.
Pan yn cyflwyno’r cais rhaid i chwi amgau mantolen ariannol am y flwyddyn flaneorol os gwelwch yn dda. Diolch.
Gwenda Roberts
Gwyndy
Bryncroes
Pwllheli.
Gwynedd.
LL53 8ET.
Mae’r Cyngor wedi ei leoli ym Mhenrhyn Llyn mewn Ardal o Harddwch Naturiol.
Cynrychioli’r y Cyngor gan yr aelodau ar dair Ward, sef Ward Botwnnog, Ward Sarn Mellteyrn a Ward Bryncroes.
Mae Ward Botwnnog yn ymestyn i gyrrion Llaniestyn i’r dwyrain, Nanhoron i’r de-ddwyrain ac yna am Borth Neigwl o’r de. Tra mae Ward Sarn Mellteyrn yn ymestyn am Fryn Mawr ac yna Ward Bryncroes yn cynrychioli ardal Penygroeslon a rhan o Langwnnadl.