Croeso i Wefan

Cyngor Cymdeithas Botwnnog

 

Mae Rhybudd o Ganlyniad Archwiliad 2021-2022 i weld rŵan (cliciwch ar y linc).

 

 

Materion/Pryderon i ddod i sylw'r Cyngor

COFIWCH - Os oes unrhyw fater yr hoffech dynnu sylw ato, boed fach neu fawr, yna mae croeso i chwi gysylltu â mi neu aelod o’r Cyngor – gellwch gael y manylion ar y dudalen ‘Aelodau’ ar y wefan yma ac fe drafodir y mater yng nghyfarfod misol y Cyngor.

Gwenda Roberts
Clarc Cyngor Cymdeithas Botwnnog
Tel: 730357

 

CEISIADAU AM GYFRANIADAU ARIANNOL GAN FUDIADAU A SEFYDLIADAU

Os dymunwch fel Mudiad neu Sefydliad gyflwyno cais am gymorth ariannol, fe ystyrir y ceisiadau hyn dair gwaith y flwyddyn sef ym mis Ebrill, Gorffennaf ag Ionawr.  Rhaid i bob cais fod yn llaw y Clarc erbyn diwedd y mis blaenorol, sef Mawrth ar gyfer cyfarfod Ebrill; Mehefin ar gyfer cyfarfod Gorffennaf a Rhagfyr ar gyfer mis Ionawr.

Pan yn cyflwyno’r cais rhaid i chwi amgau mantolen ariannol am y flwyddyn flaneorol os gwelwch yn dda.  Diolch.

Gwenda Roberts
Gwyndy
Bryncroes
Pwllheli.
Gwynedd.
LL53 8ET.

 

 

Mae’r Cyngor wedi ei leoli ym Mhenrhyn Llyn mewn Ardal o Harddwch Naturiol.

Cynrychioli’r y Cyngor gan yr aelodau ar dair Ward, sef Ward Botwnnog, Ward Sarn Mellteyrn a Ward Bryncroes.

 

Mae Ward Botwnnog yn ymestyn i gyrrion Llaniestyn i’r dwyrain, Nanhoron i’r de-ddwyrain ac yna am Borth Neigwl o’r de. Tra mae Ward Sarn Mellteyrn yn ymestyn am Fryn Mawr ac yna Ward Bryncroes yn cynrychioli ardal Penygroeslon a rhan o Langwnnadl.

 

Map yr Ardal